HCS 14
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau
(Cymru)
Ymateb gan: Councillor RH Wyn Williams,Councillor Angela Russell,
Llanbedrog
Aelod Cabinet, Gofal ac
Iechyd, Councillor,
Robert Wright, Pwllheli.
Cabinet Member Care and Health , Councillor. Gruffydd Williams,
Nefyn ,Gwynedd Council, Abersoch
Diolch am y cyfle i ymateb i'r mesur o Ymestyn agor Safleoedd Carafanau o ddeg mis i ddeuddeg mis, sef trwy'r flwyddyn.
1. Yn gyntaf fe hoffwn ddweud wrth drafod yn lleol, bod yna sawl mudiad a'r Cyngor Cymuned gyda phryder o weld y Safleoedd yma yn agor am ddeuddeg mis, ac yn llwyr wrthod y newid yma am sawl reswm.
2. Yn yr ardal yma mae yna dros 4,000 o Garafanau, ac erbyn hyn ac yn raddol mae sawl safle wedi derbyn yr hawl i agor am ddeuddeg mis 3. Oherwydd y sefyllfa difrifol ariannol sydd yn gwynebu Llywodraeth Leol, fe fydd ddim modd iddynt fel gwasanaeth fonitro'r Safleoedd yma 4. Fe fydd y bwriad yn groes i Nodyn Cyngor Technegol 20 sy'n caniatáu i fuddiannau ac anghenion yr Iaith Gymraeg gael eu cymered i ystyriaeth.
5. Oherwydd y diffyg monitro fe fydd yn agor y drws i ddarpariaeth barhaol ac felly yn tanseilio polisi ch4 ac yn medru ymestyn i dai fforddiadwy, oherwydd ansawdd uchel y Carafanau.
6. Fe fydd yn rhoi pwysau ychwanegol a'r gwasanaethau'r Cyngor fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Priffyrdd ynghyd ac Iechyd, Heddlu a gwasanaeth brys yr ardal.
7. Mae'r Ardal yma yn ddibynnol iawn ar y diwydiant Twristiaeth, ond fe fydd y newidiadau yma yn medru newid ein hardaloedd gwledig fel Ardal Harddwch, a chreu sefyllfa a sefyllfeydd trefol, sydd yn gwbl annerbyniol i'n Cymunedau yma ym Mhen Llŷn.
8. Os oes yna newid am fod, fe fydd rhaid gosod amodau llym a thrwydded a fydd yn cyfrannu tua £100 neu hyd yn oed £150 y Garafán am drwydded yn flynyddol ac am yr hawl i agor am ddeuddeg mis.
9. Yr arian yma i'w gasglu gan y Llywodraeth Leol er mwyn sicrhau'r drefn Monitro weithredol a bod y gwasanaeth yn hunan cyllidol ac nid yn faich ar ein Trethdalwyr.
Mae'r sylwadau uchod yn dod oddi wrth sawl ardal yma ym Mhen Llŷn, gyda gobaith y bydd yr Ymchwil yn cadarnhau dim agor am ddeuddeg Mis. ond os bydd, eich bod yn cymryd sylw o bwyntiau 8 a 9 uchod.
Gyda diolch ac edrychaf ymlaen am eich ymateb, rwyf yn hapus iawn i chwi gysylltu os ydych angen trafod ymhellach.
Yn gywir iawn